Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd
Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd
paperback | Welsh
Published:
25 February, 2021
Description
More Details
| Type | Book |
|---|---|
| ISBN13 | 9781913245399 |
| ISBN10 | 191324539X |
| Number Of Pages | 280 |
| Item Weight | 1000 g |
| Publisher / Reseller | Atebol Cyfyngedig |
| Format | paperback |
Media Reviews
Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth. Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd. A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli... • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. -- Cyhoeddwr: Atebol