When you buy a used copy YOU SAVE
Carbon Dioxide
0.83Kg of CO2
Water
104 litre(s) of Water
Tree
0.0062 Tree(s)
donate
1 book donated to global literacy projects

O Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008

4.22 ( 159 Ratings by Goodreads)
O Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008

O Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008

4.22 (159 Ratings by Goodreads)
paperback | Welsh
Published: 31 January, 2020
Standard worldwide delivery by Tue, July 14 - Fri, July 17
Order within 0
Condition: USED
$9.39
RRP $13.23
You save $3.84 (29%)
Price includes shipping
Available 1 in stock
- +
FREE Returns within 30 days

Description

On the train between Paddington and Cardiff, Angharad Gwyn reads the proofs of a tribute volume to her father, Ifan, a successful musician. Angharad goes on a trip down memory lane, recalling her unusual childhood in Cardiff. A reprint of the novel that won Mererid Hopwood the Literary Medal at the 2008 National Eisteddfod.
See more

More Details

Type Book
ISBN13 9781843239826
ISBN10 1843239825
Number Of Pages 208
Item Weight 1000 g
Publisher / Reseller Gomer Press
Format paperback
See More +

Media Reviews

Caf fy nhemtio i ofyn: beth wnaiff Mererid nesaf? A welir hi'n cipio Gwobr Llwyd o'r Bryn yn y Bala ymhen blwyddyn? Neu yn ennill y Rhuban Glas? Ie, merch amryddawn. Oherwydd dyma hi wedi cael y Gadair, y Goron a'r Fedal. Mae hi'n fardd ac yn llenor, ac y mae'r nofel hon yn gyfuniad o'r ddau beth oherwydd telyneg o nofel ydyw. Fe'm hudwyd gan y nofel hon, meddai Catrin Beard yn ei beirniadaeth. Dyma gyfrol fydd ... yn cyfoethogi ein lln gyfoes, meddai Aled Jones Williams, ac meddai Aled Islwyn, ... mae'r nofel hon yn taro deuddeg mewn ffordd synhwyrus a barddonol. Dyna i chi beth yw canmoliaeth. Ac yr wyf yn llwyr gytuno 'r tri oherwydd mae hwn yn gampwaith. Stori Angharad Gwyn sydd yma. Ni wyddom ddim am ei hynt a'i helynt wedi iddi dyfu heblaw bod yna rywun o'r enw Rob yn ei bywyd. Ar y trn o Lundain i Gaerdydd y mae hi'n darllen proflenni cyfrol deyrnged i'w thad, y cerddor Ifan Gwyn, a thrwy hynny y mae'r atgofion am ei phlentyndod yn y ddinas yn llifo. Wedi ei magu gan ei thad, yr oedd yna berthynas gls rhyngddynt. Arddull stacato sydd ganddi. Hynny yw, brawddegau byr a chynnil fel mae'r atgofion yn dod yn l fesul tipyn. Y mae proflenni'r gyfrol deyrnged i'w thad wedi eu hargraffu mewn llythrennau du a rhaid i mi gyfaddef, oni bai bod y broliant ar y clawr yn egluro, na fyddwn wedi deall ar y cychwyn beth oedd arwyddocd y darnau hynny. Y mae l-fflachiadau a sangiadau bob amser yn fy ffwndro. Ond dyna'r unig air o gwyn sydd gen i. Y mae pob pennod yn cloi'n glyfar ac y mae hi wedi llwyddo'n arbennig i gyfleu ofnau ac amheuon a chyffro plentyndod. Ofni llid yr athro. Y crwban yn marw. Bedd ei mam. Ymgodymu gyda'i chydwybod. Meddwl ei bod yn hyll. Synnwn i fawr nad yw Angharad yn perthyn i mi oherwydd dywed bod ganddi draed llydan byddai fy nhad yn dweud nad esgidiau ddylwn i eu cael, eithr pedolau ac y mae de a chwith yn ddirgelwch i Angharad fel i minnau (a dyna pam, mae'n debyg) na allaf yrru car. Ymgollais yn llwyr yn rhyferthwy'r eirfa ac yn y stori. Sydd thro yn ei chynffon, gyda llaw. Yr oedd yna sarff yn Eden. Un peth arall. Nid oes gen i gywilydd brolio bod gen i eirfa eithaf eang ond deuthum ar draws gair newydd sbon a bu rhaid i mi fynd i Eiriadur y Brifysgol AFfysur i ddarganfod beth yw papur erwydd (tudalen 120). Hwn yw'r papur y bydd cerddor yn cyfansoddi arno. Sef papur staff. Wel tawn i byth. Fel y dywedais ar y cychwyn telyneg o nofel. Hafina Clwyd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Show more